Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

18.30, dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013, Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

COFNODION

Yn bresennol: David Rees AC (Cadeirydd); Simon Thomas AC, Keith Davies AC. Julie James AC, Jenny Rathbone AC, ac 16 aelod allanol.

Croeso

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Wendy Sadler, Cyfarwyddwr Science Made Simple, a ymunodd â'r Grŵp heno.

 

Rheolau newydd ynghylch lobïo a grwpiau trawsbleidiol

 

Rhoes y Cadeirydd grynodeb o'r rheolau newydd. 

 

Ethol Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg

 

Etholwyd David Rees AC.

 

Ethol tri is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg

 

Eluned Parrot AC, Nick Ramsay AC a Simon Thomas AC a gafodd eu hethol yn is-gadeiryddion.

 

Ethol ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg

 

Cafodd Leigh Jeffes, o Gymdeithas Frenhinol Cemeg, ei ethol yn ysgrifennydd i'r grŵp.

 

Ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Parrott AC, Nick Ramsay AC a Dr Geertje van Keulen.

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2013

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo a'u llofnodi fel cofnod cywir.

 

 

 

Materion yn codi

 

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

Gwyddoniaeth a'r Cynulliad 2013

 

Cyflwynodd Leigh Jeffes adroddiad byr ar y digwyddiad llwyddiannus hwn a gynhaliwyd ar 21 Mai. Daeth cynifer ag yr oedd lle iddynt i’r digwyddiad ac i’r arddangosfa, a thraddodwyd cyfres o gyflwyniadau ardderchog ar y thema: Arloesedd fel Sbardun Twf yn Economi Cymru.  Diolchodd i'r ACau a noddodd y digwyddiad, ac i'r siaradwyr a'r sefydliadau a gymerodd ran.

 

Pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn 2014

 

Gofynnwyd i'r Aelodau anfon syniadau at Leigh ar gyfer cyfarfodydd y flwyddyn nesaf.

Bydd yr Athro Chris McGuigan yn siarad ar y gwyddorau bywyd ym mis Mawrth.

 

Adolygiad Grŵp Llywio TGCh Llywodraeth Cymru o'r Cwricwlwm TGCh - Dr Tom Crick

 

Cyhoeddodd y Grŵp Llywio ei Adroddiad ym mis Hydref. Rhoes Dr Tom Crick, sy'n aelod o'r Grŵp Llywio, grynodeb o'r prif ganfyddiadau, a 12 argymhelliad clir.

 

Cyflwyniad gan yr Athro Manu Haddad: "University-Industry Partnerships and their benefits”

 

Traddododd yr Athro Haddad ei gyflwyniad, ac atebodd gwestiynau.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Athro Haddad. Bydd sleidiau o'r cyflwyniad ar gael.

 

Unrhyw fater arall

 

Nid oedd unrhyw fater arall.

 

Dyddiadau'r Cyfarfodydd yn 2014

 

Dydd Mawrth 18 Mawrth

Dydd Mawrth 8 Gorffennaf

Dydd Mawrth 4 Tachwedd

 

Diwedd y cyfarfod

Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 19.45.